Ystyried cyfreithlondeb mesur cynta'r Cynulliad
- Published
Mae achos wedi dechrau yn y Goruchaf Lys yn Llundain i ystyried a yw'r mesur cyntaf a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn gyfreithlon ai peidio.
Mae'r Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, o'r farn fod rhannau o'r mesur - sy'n ymwneud â hawl cynghorau Cymru i gyflwyno is-ddeddfau - y tu hwnt i bwerau deddfu'r Cynulliad.
Ond mae Llywodraeth Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle, yn dadlau fod y mesur yn gwbl gyfreithlon.
Mae disgwyl i'r achos bara tridiau.
Cafodd y mesur, sy'n ceisio hwyluso'r ffordd y mae cynghorau sir yn ymdrin ag is-ddeddfau, ei gymeradwyo yn unfrydol gan Aelodau Cynulliad ym mis Gorffennaf.
Rhybuddion
Ond penderfynodd y Twrnai Cyffredinol gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys cyn i'r mesur fynd gerbron y Frenhines am ei sêl bendith.
Mynnodd Theodore Huckle, ar ran Llywodraeth Cymru: "Ychydig o ran, os o gwbl, oedd gan weinidogion San Steffan yn cadarnhau is-ddeddfau."
Mae ceisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn awgrymu fod Llywodraeth Cymru wedi cael sawl rhybudd, dros gyfnod o fisoedd, nad oedd y Mesur arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Cymru.
Gwrthododd gweinidogion naill ai newid y mesur na gofyn am ganiatâd cyn i'r mater fynd i bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Ailystyried
Dros gyfnod o dridiau, o ddydd Mawrth ymlaen, bydd llywodraethau Cymru a'r DU, a Chomisiwn y Cynulliad, yn cyflwyno'u dadleuon i bump o uwch farnwyr.
Petai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn ennill, bydd y mesur yn mynd gerbron y Frenhines cyn dod yn ddeddfwriaeth.
Os bydd y llys yn ochri gyda Llywodraeth y DU, bydd rhaid i'r Cynulliad ddechrau proses o ailystyried y mesur a phleidleisio eto i newid y rhannau fyddai wedi eu dyfarnu'n anghyfreithlon.
Does dim disgwyl i'r llys gyhoeddi unrhyw benderfyniad tan y Nadolig.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Hydref 2012
- Published
- 30 Gorffennaf 2012