Llys: 'Mewn tymer cyn trywanu'
- Cyhoeddwyd

Mae dynes 24 oed o Ddyffryn Nantlle wedi cyfaddef ei bod hi mewn tymer ychydig cyn iddi drywanu dynes 31 oed i farwolaeth.
Hwn oedd chweched diwrnod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon a'r cyfle cyntaf i'r rheithgor glywed tystiolaeth y diffynnydd.
Honnodd Alwen Jones o Lanllyfni, sy' wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, ei bod hi'n cario cyllell er mwyn amddiffyn ei hun.
Cafodd Emma Jones ei thrywanu wrth ddrws fflatiau Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes.
'Panicio'
Cyfaddefodd y diffynnydd ei bod wedi trywanu Emma Jones ond dywedodd nad oedd hi'n bwriadu gwneud hynny.
"Mi wnes i banicio oherwydd fy mod i'n meddwl bod Emma'n dod amdana i."
Clywodd y llys fod chwaer y diffynnydd wedi cael ffrae gydag Emma Jones mewn parti yn y fflatiau.
Roedd y diffynnydd gartre' yn Llanllyfni ar y pryd ond ar ôl derbyn galwad ffôn gan ei chwaer, fe gerddodd hi a chariad ei chwaer i'r fflatiau.
Pan gafodd ei holi gan yr heddlu ar ôl iddi gael ei arestio dywedodd iddi roi cyllell o dan ei dillad cyn gadael y tŷ.
Ond ddydd Llun honnodd y diffynnydd mai cariad ei chwaer roddodd y gyllell iddi ar y ffordd.
Dywedodd fod Emma Jones wedi taflu gwydr ati o ffenest llawr cynta'r fflatiau.
Roedd y diffynnydd wedi galw arni i ddod lawr at y drws ac fe wnaeth hynny.
Ofni
Cafodd Emma Jones ei thrywanu unwaith yn ei brest.
Dywedodd y diffynnydd iddi fynd â'r gyllell gyda hi am ei bod hi'n gwybod bod Emma yn y fflat ac am ei bod hi'n ofni Emma.
Cytunodd â'r erlynydd Ian Murphy pan ddywedodd mai camgymeriad tyngedfennol Emma Jones oedd chwerthin ar ei phen hi.
Straeon perthnasol
- 2 Hydref 2012
- 1 Hydref 2012