BBC Cymru Fyw

Joe Allen yn cipio dwy wobr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru

Published
image copyrightPA
image captionEnillodd Joe Allen ddwy wobr gan y Gymdeithas

Mae Joe Allen wedi cael ei enwi yn Bêl-droediwr y Flwyddyn ac yn Chwaraewr Clwb Gorau'r Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

media captionGareth Blainey yn holi Joe Allen

Roedd y chwaraewr canol cae 22 oed wedi creu argraff yn ystod tymor cynta' Abertawe yn yr uwchgynghrair.

Cafodd ei enwi ar sail ei berfformiadau dros Abertawe.

Yn ystod yr haf fe ddilynodd ei reolwr, Brendan Rodgers, gan symud o Abertawe i Lerpwl ar gytundeb gwerth £15 miliwn - y swm ucha' erioed i gael ei dalu am chwaraewr o Gymru.

Bu Allen, sydd wedi ennill 10 cap i Gymru, hefyd yn chwarae i Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Llundain dros yr haf.

Mae Allen, a fagwyd yn Arberth, yn cael ei gydnabod wedi iddo chwarae rôl amlwg yn ystod tymor cynta' llwyddiannus iawn i Abertawe yn yr uwchgynghrair.

Mewn seremoni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Lun, cafodd Adam Matthews, amddiffynwr Celtic, ei enwi'n chwaraewr ifanc mwya' addawol y flwyddyn - y wobr enillodd Allen y llynedd.

Gareth Bale o Tottenham Hotspur enillodd wobr y cefnogwyr.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno am y 12 mis ers Hydref 2011.

Newyddiadurwyr a darlledwyr oedd yn pleidleisio am yr enillwyr.

Straeon perthnasol

  • Allen yn symud i Lerpwl