Joe Allen yn cipio dwy wobr
- Published
Mae Joe Allen wedi cael ei enwi yn Beldroediwr y Flwyddyn ac yn Chwaraewr Clwb Gorau'r Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Roedd y chwaraewr canol cae 22 oed wedi creu argraff yn ystod tymor cynta' Abertawe yn yr uwchgynghrair.
Yn ystod yr haf fe ddilynodd ei reolwr, Brendan Rodgers, gan symud o Abertawe i Lerpwl ar gytundeb gwerth £15 miliwn - y swm ucha' erioed i gael ei dalu am chwaraewr o Gymru.
Bu Allen, sydd wedi ennill 10 cap i Gymru, hefyd yn chwarae i Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Llundain dros yr haf.
Mae Allen, a gafodd ei eni yn Arberth, yn cael ei gydnabod wedi iddo chwarae rôl amlwg yn ystod tymor cynta' llwyddiannus iawn i Abertawe yn yr uwchgynghrair.
Mewn seremoni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Lun, cafodd Adam Matthews, amddiffynwr Celtic, ei enwi'n chwaraewr ifanc mwya' addawol y flwyddyn - y wobr enillodd Allen y llynedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Awst 2012
- Published
- 26 Gorffennaf 2012
- Published
- 4 Hydref 2011