Dechrau adfer twnnel hanesyddol sy'n rhan o Blas Dinefwr
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith wedi dechrau ar adfer twnnel hanesyddol yr oedd gweision a morynion yn ei ddefnyddio i gludo bwyd yn un o blastai enwocaf Cymru.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod wedi cael caniatâd cynllunio i adfer y twnnel sy'n rhan o Blas Dinefwr ger Llandeilo.
Mae'r adeilad yn dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg ac mae'r twnel yn cysylltu cegin y gweision gyda'r plas.
Yn ôl Stephen Batsford, un o wardeiniaid y plas, byddai'r twnnel yn cael ei ddefnyddio gan y staff i weini bwyd.
Wal frics
"Rydyn ni'n credu y byddai bwyd wedi cael ei gludo o'r gegin a'i gadw'n gynnes yng nghyntedd y gweision cyn cael ei gludo i fyny grisiau'r gweithwyr a'i weini i'r teulu," meddai.
Dywedodd y byddai'r twnnel yn cael ei ddefnyddio bob dydd gan y gweithwyr nid y teulu.
Cafodd wal frics ei chodi i atal mynediad i'r twnnel yn yr 1980au a hynny ar ôl i dân ddifrodi neuadd y gweithwyr.
Oherwydd pwysigrwydd hanesyddol y plasty a'r ffaith ei fod yn adeilad rhestredig roedd yn rhaid cael caniatâd cynllunio cyn agor y twnnel.
Cafodd y caniatâd cynllunio ei roi ym mis Awst.
"Mae angen parchu cyflwr yr adeilad wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen a bydd hyn yn cymryd amser," meddai Mr Batsford.
"Hefyd wrth symud blociau, brics a rwbel mae'n rhaid bod yn ofalus rhag ofn i ni ddifrodi eitemau hanesyddol."
Mae disgwyl i'r prosiect ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.
Teyrnfradwriaeth
Teulu Rhys ap Gruffudd oedd yn berchen ar y tir lle mae'r plas ond cafodd ei ddienyddio am deyrnfradwriaeth yn 1531 a chollwyd y tir.
Disgynyddion y teulu gafodd y tir yn ôl erbyn 1659 ond erbyn hynny roedd y cyfenw wedi newid i Rice.
Edward Rice gododd y plas yn y 1660au.