Dros 100 o staff ffatri fwyd yn colli eu swyddi
- Published
Cafodd staff ffatri fwyd yn Sir y Fflint glywed mwy o fanylion am ddyfodol y cwmni, wedi iddi ddod i'r amlwg fod bron i 450 o swyddi yn y fantol.
Fe fydd tua 100 o'r gweithwyr yn colli eu swyddi.
Mae Paramount Foods - un o'r cynhyrchwyr pizza mwyaf yn y DU - wedi cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Roedd cyfarfod staff am 10am ddydd Mawrth.
Cafodd y gwaith ar safle yng Nglannau Dyfrdwy ei atal am y tro wrth i'r cwmni gynnal trafodaethau brys gyda chwsmeriaid, gan gynnwys archfarchnadoedd.
Mae Paramount Foods yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy, gyda 138 yn rhagor ar eu safle yn Salford, Manceinion.
Clywodd y staff y bydd 118 o swyddi yn cael eu colli, 76 ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Collodd y cwmni gytundeb gydag un o'u cyflenwyr mwya' yn ddiweddar, Morrisons.
'Cefnogaeth i'r cwmni'
"Mae 'na nifer o drafodaethau wedi bod gyda chwsmeriaid, cyflenwyr a phrynwyr posib," ers i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr," meddai datganiad ar ran cwmni Duff & Phelps o Fanceinion, y gweinyddwyr.
David Whitehouse a Sarah Bell, o'r cwmni, sydd wedi cael eu penodi'n weinyddwyr ar y cyd.
"Mae'r gefnogaeth bositif a ddangoswyd gan brif gwsmeriaid y cwmni yn golygu y gall Paramount Food barhau i weithredu tan y byddwn yn canfod prynwr.
"Ond mae'n rhaid ailstrwythuro ac mae hynny yn anorfod yn golygu colli swyddi."
Mae gwaelodion y pizzas yn cael eu pobi yn Salford, ac maen nhw'n cael eu gorffen ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint, y byddan nhw'n gwneud popeth posib i gefnogi'r gweithwyr.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Hydref 2012