£10m arall ar gyfer amddiffynfeydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd £10m ychwanegol ar gael ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd, meddai'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths.
Cyhoeddodd hyn wrth i'r awdurdodau ystyried pa wersi i'w dysgu wedi'r llifogydd yng Ngheredigion a Gwynedd ym mis Mehefin.
"Ddechrau Mehefin roedd un o'r llifogydd gwaetha' yng Nghymru, gyda mwy na 100mm o law yn cwympo ledled Ceredigion mewn dim ond 24 awr," meddai.
"O ganlyniad difrodwyd 127 eiddo a 248 carafán. Hefyd roedd problemau gyda chronfeydd dŵr oedd yn golygu y bu'n rhaid symud pawb o bentref Pennal rhag ofn."
Canmol
Dywedodd ei fod yn canmol y gwasanaeth brys ac asiantaethau ymateb eraill am gydweithio'n effeithiol, ac am gymryd camau brys a allai fod wedi achub bywydau.
Roedd nifer o adroddiadau wedi'u llunio ers yr achosion, meddai, a chyfeiriodd yn benodol at adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n cynnwys 11 argymhelliad.
Pwysleisiodd yr argymhellion yr angen i ddefnyddio datblygiadau technegol i'w gwneud yn haws i rybuddio am lifogydd a'r angen i'r asiantaeth ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau a sefydliadau partner.
Dywedodd y gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i roi'r argymhellion ar waith.
'Rheoli'
"Allwn ni byth atal llifogydd yn llwyr ond fe allwn ni reoli'r peryglon a lleddfu'r sgil-effeithiau.
"Rydyn ni'n buddsoddi dros £140 miliwn yn barod i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol i fwy na 7000 o gartrefi a busnesau yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
"Yr wythnos diwethaf, er gwaethaf gostyngiadau mawr yn nyraniad y gyllideb gyfalaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn ychwanegol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol rhwng 2013-14 a 2014-15, sy'n dod â'n buddsoddiad i fwy na £150m."
Bydd yr arian yn talu am wyth cynllun ychwanegol mewn cymunedau bregus.
Dywedodd Steve South, Rheolwr Safle Carafanau Riverside yn Llandre, Ceredigion, fod 75% o'r trwsio wedi ei orffen ar ôl llifogydd Mehefin.
"Ond hyd yn hyn dy'n ni ddim wedi derbyn unrhyw help oddi wrth y llywodraeth neu unrhyw asiantaeth."
Dywedodd fod angen i'r llywodraeth ystyried cydweithio ag yswirwyr fel bod modd helpu busnesau bach.
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2012
- 1 Hydref 2012
- 26 Medi 2012
- 31 Awst 2012