Enw ar Twitter: Arestio dau
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio
Mae'r heddlu wedi arestio dau wedi i enw menyw yr oedd y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei threisio gael ei gyhoeddi ar wefan Twitter.
Y ddau yw Benjamin Davies, 27 oed o'r Rhyl a Michael Ashton, 21 oed o Landdulas yn Sir Conwy.
Byddan nhw ar fechnïaeth tan Dachwedd.
Cafodd Dominic Green, 23 oed o'r Rhyl, ac Alexandra Hewitt, 24 oed o Frychdyn, eu cyhuddo ddydd Llun.
Bydd y pedwar gerbron Ynadon Prestatyn ar Dachwedd 5.
Hyd yn hyn mae o leia 17 wedi eu harestio wedi i enw'r fenyw gael ei gyhoeddi ar wefan Twitter.
Yn Ebrill cafodd cyn ymosodwr 23 oed Sheffield United a Chymru ei garcharu am bum mlynedd am dreisio'r fenyw 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan.
Straeon perthnasol
- 1 Mehefin 2012
- 30 Mai 2012
- 24 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 20 Ebrill 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol