Dynes o Lanbrynmair wedi marw yn America
- Cyhoeddwyd

Roedd dynes o Gymru ymhlith tri chorff gafodd eu darganfod mewn car o dan ddŵr mewn iard gychod ar Rhode Island yn America.
Cafodd Louise Owen, 39 oed o Lanbrynmair, ei darganfod yn y car gyda dwy o'i ffrindiau.
Roedd y tair yn gweithio ar gychod moethus yn Harbwr Newport.
Daethpwyd o hyd i'r car mewn tua phedair troedfedd o ddŵr ddydd Gwener a daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai Ms Owen oedd un o'r tair.
Bu farw'r Americanes Jennifer Way o Rhode Island a Femmetje Staring o'r Iseldiroedd hefyd. igwyddiad. Roedd y ddwy'n 39 oed.
Niwl trwchus
Yn ôl Heddlu Newport, cafodd y car ei ddarganfod ar ei ben i lawr gan yrrwr oedd yn dosbarthu tanwydd yn gynnar ddydd Gwener.
Mae'r heddlu'n credu fod gyrrwr y car wedi colli ei ffordd yn y niwl trwchus a bod y car wedi bod dan ddŵr am oriau cyn dod i'r fei.
Mae'n debyg fod y car aeth i mewn i'r dŵr yn perthyn i Ms Way.
Llanbrynmair
Roedd Ms Owen yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanbrynmair.
Dywedodd Lisa Jones o'r clwb: "Roedd Louise yn dod o Lanbrynmair ac roedd hi wedi gweithio gyda'r sefydliad am bedair blynedd.
"Mae pawb mewn sioc," ychwanegodd.
"Roedd 'na gyfarfod cyngor ddydd Sul ac fe gynhalion ni funud o dawelwch er cof amdani."
Yn ôl yr heddlu yn America: "Mae'r ymchwiliad yn parhau ond does dim tystiolaeth o unrhyw drosedd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn edrych ar adroddiadau am farwolaeth person o Brydain yn Rhode Island ar Hydref 5 ac rydym yn barod i roi unrhyw gymorth i'r teulu."