Pryder am 'farwolaethau diangen' o geuladau gwaed
- Published
Mae cannoedd o bobl yn marw yn ddiangen yn ysbytai Cymru o geuladau gwaed, medd adroddiad gan Aelodau Cynulliad.
Dywed Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad y gellid osgoi 70% o farwolaethau o geuladau pe bai'r mesurau cywir i'w hatal yn eu lle.
Yn 2010, bu farw 900 o bobl yng Nghymru oherwydd ceuladau gwaed a ddatblygodd yn yr ysbyty - mae hynny'n uwch na'r nifer o farwolaethau o ganser y fron, MRSA a HIV gyda'i gilydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad yn ofalus.
Anghysondeb
Yn yr adroddiad, mae ACau ar y pwyllgor iechyd trawsbleidiol yn dweud eu bod yn pryderu bod rhai meddygon yn "anwybyddu canllawiau fel mater o arfer" - canllawiau sy'n gofyn iddyn nhw asesu bob claf am risg ceuladau, ac i roi meddyginiaeth lle bod angen.
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Mark Drakeford: "Rydym hefyd yn bryderus bod dulliau asesu nid yn unig yn anghyson ar draws y byrddau iechyd lleol yng Nghymru, ond yn gallu bod yn anghyson ar draws adrannau gwahanol o'r un ysbyty."
Mae'r adroddiad yn galw ar bob ysbyty i sicrhau bod meddygon yn cadw at y canllawiau, ac y dylai taclo'r broblem fod yn flaenoriaeth uchel.
Daeth croeso i'r adroddiad gan Dr Simon Noble, cyfarwyddwr meddygol Lifeblood - elusen thrombosis.
Roedd yn credu bod y ffigwr o 900 o farwolaethau yn "debyg o fod yn tanamcangyfrif" oherwydd "rydym yn aml yn wael am adnabod ceuladau gwaed fel achos marwolaeth".
'Synhwyrol'
"Mae'r budd o atal thrombosis rhag digwydd mewn ysbyty yn cael ei gefnogi gan gyfoeth o dystiolaeth," ychwanegodd.
"Mae treialon ar filoedd o gleifion wedi cael eu gwneud, ac yn dangos bod hyn nid yn unig yn effeithiol, ond y bydd yn arbed arian i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
"Mae'n synhwyrol o safbwynt iechyd ac o safbwynt economaidd. Mae'n achub bywydau ac yn arbed arian.
"Mae cleifion yn mynd i'r ysbyty i wella, nid yn mynd yno gan ddisgwyl cael cyflwr all beryglu eu bywydau."
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod thrombosis yn gyflwr difrodus ac rydym wedi ymrwymo i leihau nifer yr achosion ar draws Cymru.
"Dylid defnyddio canllawiau National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE) er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal mwyaf priodol.
"Ond nid yw'r canllawiau yn diystyru cyfrifoldeb unigol staff iechyd proffesiynol i wneud y penderfyniadau priodol am amgylchiadau claf unigol."
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Hydref 2011
- Published
- 16 Medi 2011