April: Mark Bridger i ymddangos yn Llys y Goron
- Published
Bydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn ymddangos yn Llys y Goron am y tro cyntaf.
Mae disgwyl i Mark Bridger ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon drwy gyswllt fideo o'r carchar ym Manceinion ddydd Mercher.
Fe ddiflannodd y ferch bump oed o du allan i'w chartref ym Machynlleth dros wythnos yn ôl.
Ymddangosodd Mr Bridger, 46 oed, o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ar gyhuddiad o lofruddio April ddydd Llun.
Hefyd mae o wedi ei gyhuddo o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Bore Mawrth roedd yr heddlu'n holi gyrwyr oedd yn teithio'n rheolaidd ar ffyrdd yr ardal.
Mae 'na 18 o dimau'r heddlu yn parhau i chwilio'r ardal, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y byddan nhw'n cadw'r lefel bresennol o bobl am o leiaf bythefnos cyn adolygu'r sefyllfa.
Mae'r chwilio am April yn canolbwyntio ar Afon Dyfri gyda thua 100 o swyddogion yr heddlu a thua 40 o wylwyr y glannau.
Dydi'r chwilio ddim yn digwydd yn ystod y nos bellach, dim ond yng ngolau dydd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio llinell ffôn arbennig yr heddlu, sef 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Hydref 2012
- Published
- 9 Hydref 2012
- Published
- 8 Hydref 2012
- Published
- 8 Hydref 2012
- Published
- 8 Hydref 2012
- Published
- 7 Hydref 2012
- Published
- 6 Hydref 2012