Dau yn yr ysbyty wedi damwain ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl damwain ym Mhowys.
Mae 'na dagfeydd o ganlyniad i'r ddamwain rhwng dau gar ym mhentref Pool Quay, ger Y Trallwng, ar yr A483 toc wedi 6.57am ddydd Mercher.
Bu'n rhaid cau'r ffordd rhwng Tal-y-Bont ac Arddlîn.
Cafodd traffig i'r gogledd ei ddargyfeirio ar ffordd yr A458 a thua'r de ar ffordd y B4392.
Fe wnaeth aelodau o'r gwasanaeth tân ryddhau un person o un o'r cerbydau.
Cafodd y person arall driniaeth ocsigen ar y safle.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol