Merch a'i thad am brofi her byw yn Yr Antarctig

  • Cyhoeddwyd
Y saer, Joe Leavy o Gastell-neddFfynhonnell y llun, others
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y saer Joe Leavy yn adnewyddu un safle ar y cyfandir

Bydd tad a'i ferch o Gastell-nedd yn mentro i'r Antarctig er mwyn diogelu cysylltiadau hanesyddol Prydain gyda'r cyfandir.

Mae elusen o Sir Fynwy, yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig, yn gyfrifol am chwe hen ganolfan wyddonol yno.

Mae un o'r adeiladau erbyn hyn yn amgueddfa a bydd Kathleen Leavy yn helpu i redeg swyddfa bost mwyaf deheuol y byd.

Bydd ei thad, y saer Joe Leavy, yn brysur gyda gwaith cynhaliaeth ar safle gwyddonol arall sydd wedi bod yn wag ers 1959, ar ôl i'r gweithwyr orfod gadael yn ddirybudd wedi seibiant yn y tywydd garw.

Nid oes modd cysylltu gyda ffôn symudol na'r we yn yr adeiladau hanesyddol ac ni fydd Joe a Kathleen yn gallu cwrdd heb ddefnyddio llong.

Mwynhau tawelwch

"Dwi wedi bod o'r blaen, felly yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai Mr Leavy, sydd am dreulio'r pedwar mis yng nghwmni un person arall.

"Y prif beth yw'r gwynt.

"Mae'n bosib credu fod popeth yn iawn, ac yna bydd yn chwipio i fyny ymhen munudau, hyd yn oed yn ystod haf yr Antarctig."

Wrth weithio ar do a ffenestri'r hen safle pren, dywedodd y bydd o'n mwynhau'r tawelwch llwyr, heblaw am anturiaethau'r pengwiniaid a'r dyfrgwn.

Y nod yw diogelu'r adeilad er mwyn galluogi i bobl ymweld ag o yn y dyfodol.

Mae dros 15,000 y flwyddyn eisoes yn ymweld â Port Lockroy, lle bydd Miss Leavy yn gweithio am bum mis o Dachwedd 2012.

"Ar ôl i Dad fynd i weithio i'r Antarctig, roeddwn i am wneud hefyd," meddai'r wraig 25 oed fydd yn dychwelyd i'r ardal am yr ail waith.

"Mae'n bosib bydd llong Dad yn dod heibio am ryw awr ar y ffordd i'r adeilad arall, ond heblaw am hynny, dwi ddim yn credu bydd yn bosib i ni gyfarfod.

"Ond fi wir yn edrych ymlaen at gael gwneud rhywbeth mor wahanol."

Ail-greu'r 1960au

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn 1996.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Kathleen Leavy wedi bod i'r cyfandir o'r blaen

Eglurodd Eleanor Land o'r elusen mai'r nod yw diogelu cysylltiadau hanesyddol cryf Prydain gyda'r cyfandir, ac addysgu'r cyhoedd am yr hyn a gyflawnwyd ar begwn y byd.

"Mae'r hanes yn ddiweddar wrth gwrs, dim ond o'r ganrif ddiwethaf," meddai.

"Ond mae Prydain wedi chwarae rhan flaenllaw wrth archwilio'r ardal - a Chymru hefyd, ar ôl i long Capten Scott hwylio o Gaerdydd.

"Rydym wedi cychwyn rhaglen addysgol er mwyn rhannu ein hetifeddiaeth Antarctig gyda phawb."

Mae'r elusen yn gyfrifol am chwe safle gwyddonol sydd erbyn hyn yn gofadeiliau hanesyddol.

Symudodd y gwyddonwyr i adeiladau mwy modern yn y 1960au, ac felly mae Port Lockroy, prif atynfa'r elusen, yn debyg iawn i sut yr oedd o 50 mlynedd yn ôl, heb gysylltiad i'r we, trydan na dŵr poeth.

"Mae ond ar agor am chwe mis y flwyddyn - mae'n hollol dywyll am weddill yr amser," ychwanegodd Ms Land, sy'n gyfrifol am ddod o hyd i'r pedwar sy'n rhedeg yr amgueddfa pob blwyddyn.

"Ni fydd yn bosib i Joe a Kathleen ffonio ei gilydd, na ffonio adref heblaw efallai am ddiwrnod Nadolig, gan fod y ffôn lloeren mor ddrud.

"Ond wedi'r cyfan, mae gennym swyddfa bost ac felly mae pawb yn defnyddio'r hen ffordd draddodiadol o gysylltu - llythyrau!"

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol