Rhybudd am 'ddiffyg democratiaeth' gan Lywydd y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Rosemary Butler bod yna "ddiffyg democratiaeth"

Mae prinder ymdriniaeth ar y cyfryngau o'r Cynulliad Cenedlaethol wedi creu "diffyg mewn democratiaeth" yng Nghymru, medd Llywydd y sefydliad.

Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Iau, mae disgwyl i Rosemary Butler ddweud mai hwn yw "un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu datganoli".

Bydd yn nodi toriadau yn y BBC, dirywiad y diwydiant papurau newydd yn lleol a chenedlaethol, a goruchafiaeth papurau Llundain.

Mae ei sylwadau yn dilyn cwyn debyg gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad.

Fe fydd Mrs Butler yn defnyddio diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr fel esiampl pan fydd yn siarad ym Mae Caerdydd, gan ddweud ei fod yn enghraifft o stori sydd ond yn berthnasol i Loegr, ond un sy'n cael ei hadrodd fel pe bai'r berthnasol i'r DU gyfan.

'Gwella darpariaeth'

"Yng nghyd-destun yr hyn wyf am drafod heno, fe fyddwn yn disgrifio hynny fel 'diffyg democratiaeth'," medd.

"Yr hyn yr wyf yn ei olygu trwy ddweud hynny yw gofyn pwy sydd, neu'n bwysicach pwy fydd yn dweud hanes gwaith y Cynulliad Cenedlaethol o bobl Cymru yn y dyfodol?"

Fe fydd y digwyddiad gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol hefyd yn clywed gan yr Athro Anthony King o Brifysgol Essex - awdur adroddiad yn 2008 oedd yn dweud bod angen i'r BBC wella eu darpariaeth o genhedloedd ar ardaloedd y DU.

Ym mis Mai, dywedodd pwyllgor trawsbleidiol o ACau y dylid sefydlu panel o arbenigwyr i gynghori gweinidogion am y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Cafodd ymchwiliad ei sefydlu yn dilyn toriadau ymhlith papurau newydd a darlledwyr ar draws y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol