Cystadleuaeth newydd er cof am T Llew Jones
- Cyhoeddwyd

Bydd cystadleuaeth newydd yn cael ei lansio yn enw'r awdur poblogaidd T Llew Jones i hyrwyddo llyfrau Cymraeg i blant.
Caiff y gystadleuaeth newydd hon ei lansio ar Ddiwrnod T Llew Jones (Hydref 11, diwrnod ei ben-blwydd) gan ei feibion, Emyr Llywelyn a Iolo Jones.
Mae'n rhan o'r dathliadau a gynhelir yn flynyddol gan ysgolion ledled Cymru.
Trefnir y gystadleuaeth gan Gronfa Goffa T Llew Jones.
'Apelio at ddychymyg'
"Buom yn ystyried yn ofalus sut orau i ddathlu gwaith un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru," meddai Owenna Davies, Cadeirydd y Gronfa Goffa.
"Roedd yn naturiol i ni ddewis hybu maes llyfrau plant, oedd mor bwysig yng ngolwg T Llew ei hunan.
"Roedd bob amser yn pwysleisio mai ysgrifennu ar gyfer y darllenwyr ifanc oedd ei fwriad ac mai trwy greu stori gref, anturus roedd modd apelio at ddychymyg y plant.
"Teimlwn yn hyderus y bydd awduron profiadol a newydd yn ymateb i'r her, ac fe fyddai ennill Cystadleuaeth T Llew Jones yn glod arbennig i unrhyw awdur."
Gofynnir i'r ymgeiswyr gyflwyno pennod gyntaf o nofel i blant rhwng 10 a 12 oed, ynghyd â chrynodeb syml o weddill y stori, erbyn y dyddiad cau ar ddiwedd Ionawr 2013.
Bydd Cronfa Goffa T Llew Jones yn cyflwyno gwobr o £300 i'r enillydd.
Yn deilwng o'r enw
Yn achos nofelau a fabwysiedir yn ddiweddarach gan gyhoeddwr, bydd posibilrwydd o dderbyn comisiwn awdur o hyd at £2,000 dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: "Fel awdur, trawsnewidiodd T Llew Jones y ddarpariaeth ym maes llyfrau Cymraeg i blant, gan gyhoeddi llyfrau anturus oedd wrth ddant y darllenwyr ifanc.
"Pa ffordd well, felly, i'w gofio na thrwy sicrhau deunydd darllen i blant fydd yn llwyr deilwng o'i enw?"
Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cefnogi a hyrwyddo'r gystadleuaeth, ac ychwanegodd Lleucu Siencyn, y Prif Weithredwr: "Rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o drefniadau'r gystadleuaeth newydd hon gan sylweddoli pwysigrwydd hyrwyddo llenyddiaeth plant, a hynny yn enw brenin llyfrau plant Cymru."
Ceir gwybodaeth lawn am y gystadleuaeth ar wefan Cronfa Goffa T Llew Jones a sefydlwyd yn unswydd i goffáu cyfraniad yr awdur i lenyddiaeth Cymru.
Straeon perthnasol
- 7 Medi 2012
- 11 Hydref 2011
- 12 Hydref 2009
- 9 Hydref 2009