Lleiafswm o 18 mlynedd dan glo i lofrudd mam
- Published
Mae menyw 24 oed a drywanodd fam i farwolaeth wedi cael ei dedfrydu i leiafswm o 18 mlynedd dan glo.
Roedd Alwen Jones wedi gwadu llofruddio Emma Jones, 31 oed, ym Mhenygroes, Caernarfon, ym mis Rhagfyr y llynedd.
Fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher wedi iddyn nhw ystyried y dystiolaeth am lai na dwy awr.
Roedd y barnwr, Mr Ustus Griffith Williams, wedi dweud wrthi ddydd Mercher y gallai ddisgwyl dedfryd o garchar am oes.
Wrth gyhoeddi'r lleiafswm o 18 mlynedd dan glo ddydd Iau, dywedodd ei bod yn "fenyw ifanc drwblus".
"Mae'n amlwg i mi y byddai unrhyw un oedd wedi eich croesi ar y noson honno wedi bod mewn perygl.
"Fe gewch chi eich rhyddhau pan fydd y Bwrdd Parôl yn fodlon nad ydach chi bellach yn beryglus i'r cyhoedd."
Clywodd y llys fod y ddioddefwraig wedi marw bron yn syth ar ôl cael ei thrywanu yn ei brest.
Dim emosiwn
Roedd Emma Jones wedi mynd i ddadlau gyda chwaer Alwen Jones.
Doedd Alwen Jones ddim yn y parti mewn bloc o fflatiau ym Mhenygroes, ond pan glywodd am y ddadl, aeth draw yno o'i chartref gyda chyllell.
Ni ddangosodd y diffynnydd unrhyw emosiwn wrth i'r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad na phan gafodd wybod hyd ei dedfryd.
Wedi'r achos dywedodd y Ditectif Ringyll Dewi Harding Jones ei fod yn croesawu dyfarniad y rheithgor.
"Mae hyn yn dod ag ymchwiliad hir yr heddlu i ben wedi digwyddiad trasig iawn yn Nhrem Yr Wyddfa, Penygroes, ar Ragfyr 10 2011, pan gafodd Emma Jones ei thrywanu i farwolaeth heb unrhyw reswm.
"Mae Alwen Jones wedi'i chael yn euog o lofruddiaeth, ffaith y bydd yn rhaid iddi fyw â hi am weddill ei hoes."
Dywedodd bod y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd o ddefnyddio cyllell gyda'r bwriad o drywanu.
Ychwanegodd eu bod yn cydymdeimlo â theulu Emma Jones.
'Mam annwyl'
"Maen nhw wedi cynnal eu hunain mewn modd urddasol drwy gydol y cyfnod anodd hwn," meddai.
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau drwy'r heddlu fe wnaeth teulu Emma Jones ddiolch i dîm yr erlyniad a'r heddlu "am eu gwaith diflino i sicrhau bod llofrudd ein merch yn cael ei dwyn i gyfiawnder".
"Roedd Emma yn ferch a chwaer brydferth, garedig a chariadus ac yn fam annwyl i Llŷr bach.
"Mae'n anodd i unrhyw un ddeall y boen yr ydan ni wedi'i diodde'.
"Ond mae Emma yn byw yn ein hatgofion.
"Rydan ni'n byw ein bywydau o un dydd i'r llall ac wedi gwneud addewid i Emma y byddwn yn gwneud ein gorau i drio cario 'mlaen."
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Hydref 2012
- Published
- 10 Hydref 2012
- Published
- 2 Hydref 2012
- Published
- 1 Hydref 2012