Nifer o weithiau Kyffin ar werth mewn ociswn
- Cyhoeddwyd
Chwe blynedd ers marwolaeth yr arlunydd Syr Kyffin Williams mae disgwyl i un o'i weithiau gael ei werthu am hyd at £65,000.
Bydd y llun o fwthyn yn Eryri yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar Hydref 27 gyda dau ddarn arall o waith yr artist o Ynys Môn.
Mae Cwm Eilir Isaf wedi cael ei gofnodi ar gynfas gan Syr Kyffin yn y 1960au ac mae'r adeilad yn dal i'w weld heddiw.
Mewn lleoliad hudolus dywed yr arwerthwyr, Rogers Jones, nad ydi hi'n syndod bod yr artist wedi ei gyfareddu i arlunio'r lle.
Mae'r amcan bris am y darlun olew rhwng £45,000 a 65,000 a bydd ar werth yn yr ocsiwn ar Hydref 27.
Islaw'r Derlwyn y mae'r bwthyn o hyd yn edrych allan am Lyn Peris ger Llanberis.
"Fe es i Gwm Eilir Isaf a chanfod fy hun yn ymbalfalu ac yn dringo at ochrau'r llyn i ganfod lle'r oedd Syr Kyffin yn peintio," meddai Ben Rogers Jones.
"Mae'n ddiddorol bod nifer o'r gwrthrychau yn dal i fodoli, y gorlan, y cwt a'r coed."
Mae'r Gwerthiant Cymreig yn cynnwys nifer o weithiau gan enwau cyfarwydd yn cael ei gynnal bob dwy flynedd.
Mae 'na 400 o eitemau gan gynnwys 17 o brintiadau ac 11 o ddyfrlliwiau Syr Kyffin ar werth.
Hefyd mae gweithiau gan Charles Tunnicliffe, William Selwyn, Warren Williams, Donald McIntyre, Augustus John, Sir Frank Brangwyn a Wilf Roberts.
Straeon perthnasol
- 30 Ionawr 2012
- 30 Ebrill 2011
- 14 Gorffennaf 2011
- 5 Chwefror 2011