Llifogydd: 'Delio â 40 o ddigwyddiadau' yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth tân "wedi delio â hyd at 40 o ddigwyddiadau" oherwydd llifogydd sydyn mewn tref yn y gorllewin.
Ers canol y prynhawn mae llifogydd wedi achosi trafferthion yng nghanol Aberteifi ac roedd problemau hefyd yn Llandudoch yn Sir Benfro.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod dŵr wedi mynd i mewn i 20 o dai a thafarn Yr Eryr yn Aberteifi wedi i lefelau nentydd godi oherwydd glaw trwm.
Ar un adeg cafodd chwech o dai eu hynysu.
Roedd adroddiadau fod pont dros Afon Teifi wedi ei chau a bod y gwasanaethau brys wedi defnyddio cychod i achub pobol.
'Anghyffredin o drwm'
"Mae'r glaw wedi bod yn anghyffredin o drwm," meddai Maer Aberteifi, Catrin Miles.
"Dy'n ni ddim yn gyfarwydd â hyn.
"Rhaid canmol y gwasanaeth tân sy' wedi dod o lefydd fel Arberth a Chrymych a'r cyngor sir hefyd - maen nhw wedi trefnu bagie tywod.
"Gobeithio taw glanhau y byddwn ni o hyn ymla'n. Ma' pawb yn sgubo mas y gore y gallan nhw."
Cafodd yr A484 ei hailagor rhwng Aberteifi a Llechryd ac roedd amgylchiadau'n anodd ar yr A487 rhwng Eglwyswrw a Felindre Farchog.
Ar yr M4 roedd un lôn wedi ei chau ar yr M4 tua'r gorllewin rhwng Gwasanaethau Sarn a'r Pîl oherwydd llifogydd.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd y gallai'r glaw arwain at lifogydd yn y canolbarth a'r de, yn benodol ym Mhowys, Bro Morgannwg, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.
Mae modd gweld rhybuddion ar wefan yr asiantaeth.
'Mwy o ofal'
"Dylai gyrwyr gymryd mwy o ofal," meddai llefarydd.
"Y broblem fwya' yw llifogydd ar ffyrdd am fod draeniau'n llawn o ddail.
"Dylai pawb gadw golwg ar y rhagolwg a gwrando ar fwletinau newyddion yn aml."
Dywedodd Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru, am 5pm nos Iau: "Mae 'na bron i fodfedd o law wedi disgyn yng Nghapel Curig yn y 12 awr ddiwetha' a rhyw dri chwarter modfedd yn Aberdaugleddau.
"Fydd hi'n dal i fwrw glaw trwm yn nwyrain y wlad ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am y posibilrwydd o lifogydd tan wyth o'r gloch heno."
Straeon perthnasol
- 9 Hydref 2012
- 8 Hydref 2012
- 1 Hydref 2012