Rhybudd cyngor i werthwyr tân gwyllt
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi dwyn achos llwyddiannus yn erbyn perchennog siop o Dywyn am werthu tân gwyllt o gefn fan.
Bu Roger Patrick Rees, perchennog siop Nick's Basics gerbron Llys Ynadon Dolgellau ym mis Medi.
Fe'i cafwyd yn euog o fynd yn groes i Ddeddf Ffrwydron 1875 am werthu tân gwyllt mewn man cyhoeddus ac o dan y Rheoliadau Tan Gwyllt 2004 am werthu tân gwyllt tu allan i'r cyfnod a ganiateir.
Mae'r cyngor yn rhybuddio pobl, wythnos cyn Noson Tân Gwyllt, bod rhaid i fasnachwyr brofi fod y tân gwyllt yn cael eu cadw yn unol â gofynion diogelwch caeth.
Yn ogystal, dim ond am gyfnodau penodol o'r flwyddyn caiff tân gwyllt eu gwerthu ac mae'n rhaid i unrhyw fusnes sy'n dymuno eu gwerthu trwy'r flwyddyn gael trwydded sy'n costio £500.
Masnachwyr cofrestredig
Mae'r drefn gofrestru hefyd yn rheoli'r nifer o dân gwyllt sy'n cael eu cadw ar unrhyw adeg ac yn sicrhau fod y tân gwyllt eu hunain yn cydymffurfio a'r safonau diogelwch cenedlaethol.
Oherwydd pryderon diogelwch ynglŷn â chamddefnyddio tân gwyllt, mae gwerthiant wedi ei gyfyngu i bobl dros 18 oed.
Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros warchod y cyhoedd, eu bod yn galw ar bobl i gysidro diogelwch eu hunain, eu teuluoedd ac aelodau eraill o'r cyhoedd a dim ond prynu tân gwyllt gan fasnachwyr cofrestredig".
Ychwanegodd Swyddog Gorfodaeth Safonau Masnach y Cyngor, Peter Johnstone: "Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â'r ffordd mae tân gwyllt yn cael eu gwerthu neu eu storio, byddwn yn eu hannog i gysylltu ag Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd neu Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd Rees orchymyn i dalu dirwy o £790 yn ogystal â chostau o £200 a £15 o iawndal dioddefwr.