BBC Cymru Fyw

Teyrnged i 'weithiwr caled a chariadus' a laddwyd ym Mhorthcawl

Published
image copyrightHeddlu De Cymru
image captionMae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Paul Trevelyan
Mae teulu dyn 50 oed a gafwyd hyd iddo wedi marw yn ei gartref wedi talu teyrnged i "weithiwr caled".
Cafwyd hyd i Paul Trevelyan yn y tŷ yn ardal Notais o Borthcawl ddydd Sul Hydref 7.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.
"Mae'r teulu cyfan wedi eu tristau o ganlyniad i'r drasiedi, trasiedi na allwn ni gredu sydd wedi digwydd," meddai'r datganiad.
"Roedd Paul yn ŵr, tad, mab, brawd, brawd-yng-nghyfraith, nai, ewythr a mab-yng-nghyfraith cariadus.
"Roedd yn weithiwr hynod galed ac yn uchel ei barch ymhlith ei gyd-weithwyr a ffrindiau."

'Diolchgar'

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn addfwyn a meddylgar a oedd bob amser yn barod i helpu eraill.
"Roedd yn mwynhau'r pethau syml mewn bywyd ac yn ddyn teulu.
"Mae'r teulu cyfan mewn sioc ac yn ceisio dod i delerau â cholli Paul."
Dywedodd y datganiad hefyd eu bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafwyd gan Heddlu De Cymru a'r tîm cyswllt teuluol.
Ond maen nhw eisiau amser i alaru.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ tua 12:20am fore Sul.
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a chan ei fod yn yr ysbyty dydi'r heddlu ddim wedi gallu ei holi eto.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio canolfan yr ymchwiliad ar 01656 306099 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

  • Cyhoeddi enw dyn a lofruddiwyd