Cwmni Wilkinson yn agor siop ym Mhwllheli a chreu 56 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r siop yn rhan o ddatblygiad newydd ar hen safle Ffermwyr Eifionydd

Mae cwmni Wilkinson yn agor siop newydd ym Mhwllheli ac yn creu 56 o swyddi.

Bydd y siop fawr, yn agor ddydd Iau ac yn rhan o ddatblygiad newydd ar hen safle Ffermwyr Eifionydd.

Mae 'na swyddi parhaol a thros dro yno, gan gynnwys cynorthwywyr gwerthu, arolygwyr stoc a gweithwyr stordy.

Dywedodd Ifor Hughes, cadeirydd siambr fasnach Pwllheli y bydd hyn yn creu lles i'r dre'.

"Ond fe fydd hefyd yn gwneud drwg i rai siopa ar y cychwyn, mae'n siŵr.

"Ond os yw hi'n denu pobl yn lle eu bod yn mynd i drefi eraill fel Porthmadog, bydd yn hwb.

"Mae'n well na bod yr adeilad yn wag, yn dydi?

'Yn allweddol'

"Bydd y siop ger yr orsaf drenau ac mi fydd hyn yn allweddol wrth ddenu pobl o'r Bermo ac yn y blaen."

Dywedodd fod y dre, sy'n dibynnu ar dwristiaeth i raddau helaeth, wedi diodde'n ddiweddar oherwydd y tywydd gwael a'r cyni economaidd.

Mae gan y cwmni siopau ym Mhorthmadog, Caergybi, Y Rhyl a Wrecsam yn y gogledd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae agor y siop ym Mhwllheli yn gam cyffrous.

"Rydym yn falch ein bod yn dod â nwyddau o safon uchel i'r ardal ac yn siwr y bydd y trigolion lleol yn gwerthfawrogi hyn.

"Yn sicr, bydd y swyddi'n hwb i economi'r ardal."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol