Cau lôn oherwydd nwy'n gollwng
- Published
Mae lôn orllewinol ffordd ddeuol yr A4120 yn Aberystwyth wedi ei chau am fod nwy'n gollwng.
Cafodd criwiau brys y bwrdd nwy eu galw fore Gwener.
Mae hyn yn effeithio ar draffig rhwng yr A44 Fford Sulien yn Llanbadarn Fawr a Boulevard St Brieuc ger cylchfan Morrison's.
Ar hyn o bryd mae traffig yn cael ei ddargyfeirio drwy ganol y dre'.