Uned newydd yn cael ei hagor yn Ysbyty Glangwili
- Published
Mae uned asesu newydd sy'n costio £8.8 miliwn wedi ei hagor yn Ysbyty Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
Nod yr uned yw gwella'r drefn mynediad i'r ysbyty a chefnogi meddygon teulu.
Bydd meddygon teulu yn cyfeirio cleifion at yr uned newydd.
Dywedodd Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y byddai'r uned yn gwella gofal cleifion.
"Mae'r uned yn allweddol er mwyn sicrhau fod cleifion yn cael mynediad mwy hwylus ar gyfer achlysuron dirybudd.
"Fe fydd o hefyd yn cefnogi ein staff wrth iddyn nhw ddarparu gwasanaeth o safon."
Mae'r uned yn cynnwys 10 gwely mewn ystafelloedd unigol ac en-stite.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Awst 2012
- Published
- 22 Rhagfyr 2011
- Published
- 20 Rhagfyr 2011
- Published
- 21 Rhagfyr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol