Anafu pensiynwr ar gwch hwylio
- Published
Mae pensiynwr wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar gwch hwylio ym Môr Hafren ger Y Barri.
Cafodd y dyn 74 oed ei fwrw ar ei ben gan fraich y cwch a bu'n anymwybodol.
Aeth bad achub Y Barri i'w gynorthwyo ar ôl cael galwad am 11:40am ddydd Gwener a daeth y dyn yn ymwybodol unwaith eto.
Aed ag ef i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.