Gyrrwr lori wedi torri rheolau
- Published
Mae gyrrwr lori wedi cael ei orchymyn i dalu dirwy a chostau o £2,000 ar ôl i'w gerbyd droi drosodd gan anafu gweithiwr.
Clywodd ynadon Pontypridd bod Wayne Ford wedi bod yn defnyddio craen oedd ar y lori heb osod y cyfarpar angenrheidiol.
Trodd y lori drosodd yn Aberpennar, gan anafu Martin Sapec, 54 oed o Edwardsville, oedd wedi bod yn ei helpu.
Cyfaddefodd Ford, o Ffos y Gerddinen, iddo dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Cafodd ddirwy o £1,000 a gorchymyn i dalu £1,000 mewn costau.