Asbestos: Cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn
- Published
Mae Cyngor Caerffili wedi penderfynu cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod yn yr adeilad.
Mae gan yr ysgol bron i fil o ddisgyblion, a hyd yma does dim trefniadau i gynnal gwersi mewn adeilad arall.
Mae'r cyngor yn ceisio dod o hyd i leoliad, ac mi fyddan nhw'n cysylltu gyda rhieni'r wythnos nesaf.
Byddan nhw hefyd yn rhoi'r diweddaraf ar eu gwefan.