Tri yn yr ysbyty wedi damwain yn Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi damwain ddifrifol yn Y Parc, Y Bala nos Wener.
Aed â menyw a dau o blant i Ysbyty Wrecsam Maelor.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i ffordd yr A494 ychydig wedi 7.15pm oherwydd gwrthdrawiad rhwng Ford Focus lliw arian a Jaguar du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu'r Cwnstabl 850 Jones yng Ngorsaf Heddlu Dolgellau.