BBC Cymru Fyw

Seintiau Newydd 0-1 Y Drenewydd

Published
image copyrightNot Specified

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru:

Seintiau Newydd 0-1 Y Drenewydd

Y sioc yn golygu bod Prestatyn yn disodli'r Seintiau Newydd ar frig y tabl.

Roedd Y Drenewydd wedi ildio 18 gôl mewn pedair gêm a'r digwyl oedd nad oedd ganddyn nhw obaith caneri.

Ond tîm Craig Harrison gyrhaeddodd y gwaelodion ac amddiffynwr yr ymwelwyr, Craig Williams, rwydodd ar ôl 75 munud.

Y syndod mwya' efallai yn hanes y gynghrair.

Bangor 1-2 Llanelli

Buddugoliaeth haeddiannol i'r Cochion oddi cartre', yn dangos ysbryd er gwaetha' problemau mawr oddi ar y cae.

Mae'r rheolwr cyffredinol, Nigel Richards, wedi colli ei swydd a llawer o'r chwaraewyr heb gael cyflog.

Ond llwyddodd Llanelli i wrthsefyll ymosodiadau'r Gogleddwyr yn hwyr yn y gêm.

Y rhai allweddol oedd Lee Surman ddofodd Les Davies - a Geoff Kellaway oedd yn feistr ar greu cyfleon.

Lido Afan 1-5 Airbus

Caerfyrddin 2-4 Cei Conna

Prestatyn 2-2 Aberystwyth

Y Bala 2-0 Port Talbot