Savile: Menyw wedi cwyno
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod menyw wedi cwyno bod Syr Jimmy Savile wedi ymosod arni hi'n rhywiol yn y saithdegau.
Dywedodd llefarydd: "Mae'n byw yn ardal yr heddlu a chawson ni wybod ar Hydref 6.
"Roedd hi'n 16 ar y pryd ac yn byw y tu allan i ardal yr heddlu.
"Mae'r wybodaeth wedi ei rhoi i Heddlu Llundain."
Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n credu y gallai Savile fod wedi cam-drin 60 o bobl ers 1959.
Dywedodd Scotland Yard, sy'n cydlynu'r ymchwiliad, eu bod yn dilyn mwy na 300 trywydd ac yn delio â 14 o heddluoedd.
Roedd yr honiadau, meddai, yn ymwneud â'r cyfnod hyd at 2006.
Mae'r BBC wedi lansio dau ymchwiliad.
Roedd Savile yn cyflwyno Top of The Pops a Jim'll Fix It yn y saithdegau a'r wythdegau a bu farw yn Hydref 2011, yn 84 oed.