Trafod cytundeb dros dro gyda Virgin i wasanaethu'r gogledd
- Published
Mae Llywodraeth San Steffan wedi gofyn i gwmni Virgin i fod yn gyfrifol am gynnal y gwasanaeth trenau rhwng Llundain a Gogledd Cymru, am y tro.
Cwmni Virgin Trains sy'n cynnal y gwasanaeth ar hyn o bryd.
Ond ym mis Awst cyhoeddodd y llywodraeth mai cwmni FirstGroup fyddai'n cynnal y gwasanaeth o fis Rhagfyr wedi proses dendro.
Ond wedi i Virgin herio'r penderfyniad fe ddywedodd y llywodraeth bod gwallau technegol yn y modd y cafodd y cytundeb ei wobrwyo ac y bydd proses newydd.
Mae'r Adran Drafnidiaeth yn rhagweld y gallai'r broses newydd gymryd rhwng naw mis ac ychydig dros flwyddyn.
Wrth i'r llywodraeth drafod cytundeb dros dro gyda Virgin maen nhw'n dweud y bydd y gystadleuaeth ar gyfer y cytundeb hir dymor yn ail gychwyn.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 27 Awst 2012
- Published
- 15 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol