Yr heddlu yn dod o hyd i gorff dyn ar draeth yng Nghaergybi
- Cyhoeddwyd

Cafodd Eric Driver ei weld ddiwethaf tua 1pm ddydd Gwener Hydref 5
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod corff tad 46 oed wedi cael ei ganfod ar draeth yng Nghaergybi.
Roedd yr heddlu wedi apelio'r wythnos diwethaf am wybodaeth am Eric Owen Driver.
Doedd Mr Driver ddim wedi ei weld ers Hydref 5.
Cafwyd hyd i gorff y tad i ddau o blant ar draeth Penrhos ddydd Gwener.
Does 'na ddim amgylchiadau amheus yn ôl yr heddlu.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r traeth toc wedi 8am.
Cafodd y crwner ei hysbysu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol