Ehangu gwefan mapio troseddau yng Nghymru a Lloegr
- Published
Gall pobl yng Nghymru a Lloegr gymharu lefelau troseddu yn yr ardaloedd lle maen nhw'n byw ag ardaloedd eraill wedi i wefan mapio troseddu gael ei ehangu.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi ehangu'r gwefan www.police.uk i alluogi pobl gymharu lefelau troseddu mewn ardal neu fwrdeistref benodol.
Daw'r newid i'r wefan fis cyn i bleidleiswyr ethol y Comisiynwyr Heddlu cyntaf.
Dywedodd y Gweinidog Plismona, Damian Green y byddai'r comisiynwyr yn galluogi pobl i "leisio eu barn" ynghylch sut y bydd eu hardaloedd yn cael eu plismona.
Lefelau troseddau
Y wefan hon oedd un mwyaf llwyddiannus Llywodraeth y DU y llynedd.
Yn ôl y Swyddfa Gartref fe fydd y wefan hefyd yn galluogi pobl i weld sut y mae graddfeydd troseddu sydd wedi'u nodi wedi newid yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd llefarydd, cyn bo hir y bydd y wefan yn galluogi pobl i astudio a chymharu lefelau troseddu mewn ardaloedd llai gan gynnwys pentrefi ac ystadau tai.
Bydd y wefan hefyd yn cynnwys lluniau o droseddwyr sydd wedi'u dedfrydu o ddiwedd mis Hydref.
Cafodd y mapiau eu lansio ym mis Chwefror 2011 gan alluogi defnyddwyr i ganfod pa droseddau oedd wedi eu hadrodd yn eu strydoedd lleol.
Bydd yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cynnal ar Dachwedd 15.
Bydd y Comisiynwyr yn gweithredu yn lle Awdurdod yr Heddlu mewn 41 ardal.
Tasg y Comisiynwyr fydd craffu ar eu llu a sicrhau eu bod yn atebol.
Fe fyddan nhw hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb y llu.
Mae hon yn swydd gyflogedig a'u bwriad yw rhoi'r pŵer i bobl leol gael dweud eu dweud ar sut mae taclo troseddau yn eu hardal.
Gobaith Llywodraeth y DU yw y bydd y newidiadau'n cynyddu atebolrwydd yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Hydref 2012