Dyn yn euog o lofruddiaeth 'greulon' ym Mhentyrch
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn yn ei gartref ym Mhentyrch yn dilyn lladrad.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Bleddyn King, o Abercynon, ger Pontypridd, wedi cynllunio i ddwyn o dŷ David Evans, 63 oed, ond bod ymosodiad King ar ei ddioddefwr mor ffyrnig nes i lafn ei gyllell blygu.
Trywanodd King gath Mr Evans i farwolaeth hefyd cyn rhoi'r tŷ ar dân a dianc.
Ond cafodd King ei stopio gan yr heddlu wrth iddo yrru car Citroen Mr Evans ym mis Ionawr eleni.
'Creulon a dideimlad'
Darganfu'r heddlu ddau gerdyn banc oedd yn berchen i Mr Evans pan gafodd King ei archwilio.
Dywedodd Swyddog y Ddalfa'r Heddlu, Ivor Whatmore wrth y llys: "Roedd gwaed dros wyneb King yn ogystal â'i ddillad a rhwng bysedd ei draed."
Dywedodd yr erlynydd, Michael Mather-Lees: "Cynllwynodd King i dargedi Mr Evans mewn modd creulon a dideimlad er lles ei hun."
Cafwyd King yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys wnaeth para 10 niwrnod.
Bydd yn cael ei ddedfrydu Ddydd Mawrth.