Llifogydd posib i'r arfordir
- Published
Mae risg o lifogydd ar hyd arfordir Cymru wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion gyfuno ddydd Mawrth a dydd Mercher, medd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Fe gyhoeddon nhw bum rhybudd llifogydd fore dydd Mawrth - yn Y Borth, Bae Clarach ac Aberystwyth yng Ngheredigion, yn ogystal ag ar Afon Gwy yng Nghas-gwent a Tintern.
Maent hefyd yn dweud wrth bobl am fod yn wyliadwrus mewn naw o ardaloedd ar hyd glannau de Cymru, rhwng Aberddawan a Phont Hafren, ac yn y gogledd o Aber Dyfrdwy hyd at arfordir dwyreiniol Ynys Môn.
Fore Mawrth, cyhoeddodd cwmni Network Rail fod llifogydd yn achosi problemau i'r rhwydwaith ger Y Borth.
Oherwydd hyn, mae teithwyr yn cael eu cludo ar fysiau rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, sy'n ychwanegu 20 munud at amser y daith.
Ar ôl cael ei chau am gyfnod i gerbydau uchel, mae Pont Cleddau ar yr A477 yn Sir Benfro bellach wedi ei hailagor yn llwyr.
Gwyntoedd cryfion
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw golwg ar aber Afon Hafren, y de ddwyrain a de orllewin Cymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl gwyntoedd cryfion o'r gorllewin, ac fe allai hynny olygu bygythiad o lifogydd ar ffyrdd yr arfordir, ffermydd a chartrefi anghysbell ar dir isel.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth: "Dylai pobl gymryd gofal arbennig mewn mannau agored lle mae risg o gael eu 'sgubo i ffwrdd gan donnau neu o gael eu taro gan falurion sy'n cael eu taflu gan y tonnau.
"Fe fydd swyddogion o'r Asiantaeth yn gwirio amddiffynfeydd llifogydd ac asedau eraill fel gorsafoedd pwmpio er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio'n gywir."
Tir gwlyb
Roedd y proffwydi tywydd yn darogan y gallai gwyntoedd tymhestlog a glaw daro nos Lun, gyda'r glaw yn clirio ond y gwyntoedd yn parhau ddydd Mawrth.
Gan fod y gwyntoedd o'r gorllewin, fe allai'r gwynt hyrddio ar gyflymder o hyd at 60 m.y.a. i ardaloedd sy'n wynebu'r gorllewin fel Bae Ceredigion ac Ynys Môn.
Bydd gwasgedd isel yn cyrraedd ddydd Mercher a dydd Iau, gan ddod â glaw trwm, ac fe fydd y glaw yn disgyn ar dir gwlyb.