Mewnforio ynni gwynt o Iwerddon?
- Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth y DU yn ystyried cynlluniau i fewnforio ynni gwynt o Iwerddon, fydd yn cysylltu'n uniongyrchol gyda'r Grid Cenedlaethol ar hyd ceblau fydd yn rhedeg o dan Fôr Iwerddon.
Dywed y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun Greenwire y gallai ffermydd gwynt anferth gynhyrchu digon o ynni ar gyfer hyd at dair miliwn o gartrefi.
Mae Element Power hefyd yn dweud y gallai arbed biliynau o bunnau i gwsmeriaid gan ei fod yn rhatach na chynhyrchu ynni gwynt yn y môr.
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyrraedd y nod o gael 15% o'u hynni o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020, a dywedodd Element Power wrth BBC Cymru y gallai'r cynllun ddarparu hyd at 10% o hynny.
Osgoi gwrthdaro
Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o'r DU, mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn gwrthwynebu codi ffermydd gwynt.
Mae Greenwire yn cael ei weld fel ffordd o osgoi'r fath wrthdaro yn y dyfodol.
Byddai'r ffermydd gwynt yng nghanolbarth Iwerddon, ac fe fyddai'r trydan wedyn yn cael ei anfon o dan Fôr Iwerddon.
Fe fyddai'r ceblau yn dod i'r lan ar ddau safle yng Nghymru - Pentir, ger Caernarfon, yng Ngwynedd ac ym Mhenfro.
Mae Element Power yn mynnu gan fod y ddau leoliad yn agos i orsafoedd pŵer, is-orsafoedd a pheilonau, fe fyddai nemor ddim effaith ar yr amgylchedd.
Ond fe fyddai'r cynllun angen codi dwy orsaf trosi ynni - y ddwy tua'r un maint â dau gae pêl-droed.
'Cyfleoedd'
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan wrth BBC Cymru:
"Byddai cydgysylltu pellach yn gallu arwain at bob math o gyfleoedd i'r DU - y potensial i ostwng prisiau, cynorthwyo gyda chydbwyso systemau a gwella diogelwch ynni.
"Yn ddiweddar, galwodd y llywodraeth am dystiolaeth ar gostau a buddion masnachu mewn ynni adnewyddol - fe fyddwn yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth maes o law."
Straeon perthnasol
- 25 Medi 2012
- 26 Gorffennaf 2012
- 27 Mehefin 2012
- 17 Mehefin 2012