Undeb yn galw am ymchwiliad iechyd a diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros 900 o ddisgyblion wedi colli dosbarthiadau ers i'r ysgol gau ddydd Gwener

Mae undeb athrawon yn dweud eu bod wedi gofyn i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i ymchwilio wedi i asbestos gael ei ddarganfod mewn ysgol uwchradd yn ne Cymru.

Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn, sydd â 900 o ddisgyblion, ei chau yn hwyr ddydd Gwener wedi i adroddiad strwythurol ddarganfod y sylwedd.

Dywedodd Geraint Davies, o undeb NASUWT Cymru, ei fod eisiau i'r Gweithgor gadarnhau fod y dulliau cywir yn cael eu gweithredu.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi galw am archwiliad asbestos yn ysgolion y wlad.

Yn ôl cyngor Caerffili, roedd disgwyl i swyddogion iechyd cyhoeddus adrodd ar y sefyllfa i'r ysgol ddydd Mawrth.

Cyngor annibynnol

Daeth y cyhoeddiad y byddai'r ysgol yn gorfod cau yn syth brynhawn dydd Gwener a hynny, meddai'r cyngor, er mwyn diogelu iechyd a lles y disgyblion a'r staff.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru ddydd Mawrth: "Yn syml mae hyn yn fater o iechyd a diogelwch ac fe ddylai'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ddarparu cyngor annibynnol ar faterion o'r fath.

"O ystyried difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghwmcarn, dyw hi ond yn deg i bawb, o athrawon i staff cynorthwyol, rhieni a disgyblion a hyd yn oed y cyngor ei hun, fod y fath gyngor annibynnol ar gael."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Rydym yn edrych ar fater asbestos mewn ysgolion. Mae'n rhaid i ni weld a oes achos ar gyfer ymchwiliad llawn."

Mae NASUWT wedi codi pryderon am y "lefel uchel" o asbestos a gafodd ei ddarganfod yn yr adeilad, gan rybuddio y gallai staff a disgyblion fod wedi anadlu'r sylwedd yn yr awyr.

Daeth y broblem i'r amlwg wedi i gwmni ymweld â'r ysgol i gynnal ymchwiliad yn ystafell y boeler.

Archwiliad cenedlaethol

Yn sgil y penderfyniad i gau'r ysgol, galwodd Ms Williams ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad cenedlaethol o asbestos mewn ysgolion.

"Mae asbestos yn gallu lladd ac rwy'n hynod bryderus y gallai disgyblion, staff ac athrawon yn ein hysgolion ddod i gysylltiad ag asbestos," meddai.

"Dydw i ddim eisiau dychryn heb fod angen, ond pan mae ysgol â 900 o blant yn gorfod cau oherwydd bod asbestos wedi'i ddarganfod yn yr awyr, rwy'n credu fod gan bobl ar draws Cymru'r hawl i wybod a ydy asbestos yn berygl yn eu hysgolion lleol."

Dywedodd cyngor Caerffili y byddai modd cael y manylion diweddara' am y sefyllfa ar eu gwefan.

Ychwanegon nhw eu bod yn gweithio gyda thîm arweinyddiaeth a llywodraethwyr yr ysgol i ymchwilio i drefniadau eraill ar gyfer disgyblion a staff, ond nad oedd disgwyl ateb yr wythnos hon.

Yn ôl yr awdurdod, mae pob ymdrech i flaenoriaethu disgyblion ym mlynyddoedd 11, 12 a 13.

Mae 'na adroddiadau fod disgyblion wedi cael gwaith i'w wneud adre' trwy wefannau cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol