Taith newydd o Gaerdydd i'r Almaen
- Published
Mae'r cwmni awyr o'r Almaen, Lufthansa, wedi cyhoeddi y byddan nhw'n dechrau teithiau rhwng Caerdydd a Düsseldorf yn 2013.
Bydd y teithiau'n dechrau ar Fai 4 y flwyddyn nesaf, a dywedodd y cwmni eu bod wedi caniatáu trefniant lle gall pobl sy'n prynu tocynnau o Gaerdydd gysylltu gyda rhwydwaith Lufthansa i weddill Ewrop.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae Düsseldorf yn un o ranbarthau cyfoethocaf Ewrop, ac fe fydd y gwasanaeth newydd yma yn agor Cymru fel cyrchfan i dros 20 miliwn o Almaenwyr sy'n byw o fewn awr i'r maes awyr yno.
"Datblygu teithiau newydd yw'r allwedd i ddenu mwy o deithwyr drwy Faes Awyr Caerdydd, ac yn cynorthwyo i wireddu potensial y lle fel busnes llwyddiannus gyda chysylltiadau gwych yng nghanol isadeiledd cenedlaethol Cymru."
Cysylltiadau
Dywedodd Christian Schindler, Rheolwr Cyffredinol Lufthansa yn y DU ac Iwerddon:
"Yn ogystal â chynnig gwasanaeth uniongyrchol i'r Almaen, rydym wedi sicrhau bod yr amserlen yn cynnig cysylltiadau i nifer o gyrchfannau eraill - yn enwedig ar draws Ewrop.
"Mae Lufthansa yn cynnig amseroedd trosglwyddo i gyn lleied â 35 munud drwy Düsseldorf, sy'n ei wneud yn ddewis deniadol o'i gymharu â chanolfannau hedfan eraill."
Bydd prisiau tocynnau dwy ffordd rhwng Caerdydd a Düsseldorf yn dechrau ar £99 am docyn arferol a £659 am docyn Busnes.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Medi 2012
- Published
- 11 Medi 2012
- Published
- 21 Awst 2012
- Published
- 2 Awst 2012