Cipio plentyn: Dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio cipio merch ysgol yn yr Wyddgrug.
Mae David Edgerton, 22 oed, eisoes wedi ei gyhuddo o dreisio merch arall 14 oed ar yr un diwrnod.
Cafodd Edgerton ei gyhuddo o geisio cipio'r ferch o gefn Canolfan Hamdden Coed-llai ar Awst 22 eleni.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug fis nesaf.