Cynghorau i godi mwy am wasanaethau?
Gan John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol
- Cyhoeddwyd

Gall Cynghorau Cymru ennill mwy o incwm drwy godi mwy am wasanaethau, ym marn y Gweinidog Llywodraeth Leol, Cral Sargeant.
Daeth ei sylwadau wrth iddo gyhoeddi manylion am yr arian fydd ar gael i Lywodraeth Leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
1.5% fydd y cynnydd ac mae hynny, yn ôl Mr Sergeant yn well na'r disgwyl.
Cyngor Casnewydd sy'n cael y cynnydd mwyaf, 2.06% a Chyngor Powys fydd yn derbyn y cynnydd lleiaf.
'Codi rhagor o incwm'
Elfen newydd yn y setliad yw bod £214 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer cymorth i rai sy'n talu treth y cyngor.
Mae hwn yn gyfrifoldeb newydd sydd wedi cael ei drosglwyddo o San Steffan i Lywodraeth Cymru.
Mae Mr Sargeant, er hynny, yn cydnabod fod 'na bwysau ar gyllidebau oherwydd awydd y llywodraeth i ganolbwyntio ar addysg ac iechyd.
"Mae addysg ac iechyd yn golygu fod dwy ran o dair o'r arian cyhoeddus sydd ar gael yn cael ei lyncu gan y ddau wasanaeth yma," meddai.
"Mae'n ddoeth felly i gynghorau ganolbwyntio ar godi rhagor o incwm eu hunain."
Siomedig
Mae'r Gweinidog hefyd wedi beirniadu'r cynghorau am fethu gwneud mwy i gydweithio er mwyn arbed arian.
Mae 'na "ddiffyg ewyllys" medda fo ac mae o wedi cyhoeddi y bydd 'na gronfa gydweithredu yn barod i rannu pwrs o £10 miliwn.
Ond mae 'na amodau. Mae'n rhaid i gynghorau gynnig cynlluniau credadwy os ydyn nhw am gael ceiniog o arian o goffrau'r gronfa newydd.
Dywedodd Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn gobeithio bod y setliad yn golygu na fydd treth y cyngor yn codi'n ormodol.
Ar ran y Torïaid, dywedodd Janet Finch-Saunders, y llefarydd ar Lywodraeth Leol, ei bod yn siomedig fod Llafur yn dal i gredu mai gwleidyddion ac nid y cyhoedd sy'n gallu gwario eu harian.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Lindsay Whittle: "Rydym yn cydnabod fod y setliad yn un weddol hael o'i gymharu â Lloegr.
"Ond bydd y pwysau ar awdurdodau ... yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
"Rydym wedi bod yn ymgyrchu i Lywodraeth Cymru leddfu'r toriadau."
Ymateb cadarnhaol oedd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Dywedodd y cynghorydd Aaron Shotton, Dirprwy Arweinydd y Gymdeithas "Mae'r Gymdeithas yn croesawu'r dyraniad sydd, er gwaethaf y sefyllfa ariannol anodd, yn rhoi arian craidd parhaus i gynghorau lleol Cymru.
"Mae'n well nag un Lloegr, hefyd. Rydyn ni'n cefnogi'r bwriad i ddiogelu addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol.
"Rydyn ni'n derbyn bod angen cydweithio er mwyn cynnig a chynnal gwasanaethau, a byddwn ni'n gweithio'n adeiladol."
Straeon perthnasol
- 5 Hydref 2012
- 26 Mehefin 2012