Menyw ar goll: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Published
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddynes o Sir y Fflint wedi arestio dyn ar amheuaeth o'i llofruddio.
Does neb wedi gweld Catherine Gowing, 37 oed, ers iddi adael ei gwaith am 7pm nos Wener.
Mae plismyn yn ceisio dod o hyd i'w char porffor, Renault Clio, gyda'r rhif cofrestru Gwyddelig 00 D 99970.
Cafodd ystafell ymchwilio ei sefydlu wedi diflaniad Ms Gowing sy'n byw yn New Brighton ger Yr Wyddgrug.
Yn wreiddiol o Clonlee ger Birr yn Sir Offaly mae wedi bod yn filfeddyg yn Yr Wyddgrug ers dwy flynedd.
Mewn cynhadledd newyddion brynhawn Mercher dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydan ni'n poeni'n fwy am ei lles a dydan ni ddim yn gwybod lle mae hi ar hyn o bryd.
"Ni chyfarfu â rhywun dros y penwythnos ac ni ddaeth hi i'r gwaith fore Llun ac mae hyn yn groes i'w chymeriad. Fel arfer, mae hi'n cadw cysylltiad â'i theulu, ei ffrindiau a'i chydweithwyr."
Symudodd i New Brighton ar ôl graddio o brifysgol yn Budapest.
Mae hi tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, yn eithaf tenau ac yn siarad ag acen Wyddelig.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 ar frys.