Dau wedi marw a saith yn yr ysbyty wedi damwain ffordd
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau o bobl gael eu lladd mewn damwain rhwng pum cerbyd yn Sir Gâr.
Fe gafodd saith o bobl eraill eu hanafu yn y ddamwain ar yr A40 rhwng Dryslwyn a Llandeilo tua 4:25pm brynhawn Mawrth.
Bu'n rhaid i aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddefnyddio offer arbenigol i ryddhau rhai o'r bobl o'u ceir.
Cafodd y bobl oedd wedi eu hanafu eu trin gan barafeddygon yn y fan a'r lle, yn ôl y gwasanaeth tân.
Rodd y ffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ond fe gafodd ei hail agor yn ddiweddarach.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol