Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd: Heddlu Gwent
- Cyhoeddwyd

Ar Dachwedd 15 fe fydd 37 o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr, y tu allan i Lundain.
Tasg y Comisiynydd fydd craffu ar lu a sicrhau ei fod yn atebol.
Fe fydd Comisiynydd hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb ar gyfer y llu.
Mae hon yn swydd gyflogedig a'u bwriad yw rhoi'r pŵer i bobl leol gael dweud eu dweud ar sut mae taclo troseddau yn eu hardal.
Dyddiad cau'r enwebiadau ar gyfer y swydd oedd Hydref 19 ac mae 'na bedwar ymgeisydd ar gyfer Gwent.
Mae BBC Cymru yn edrych ar bob un o'r lluoedd cyn yr etholiadau.
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent yn gofalu am bum awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru, Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, cyfanswm ardal o 600 milltir sgwâr a phoblogaeth o 560,000.
Mae hon yn ardal wledig a threfol.
Yn ninas Casnewydd mae'r boblogaeth fwyaf gyda thua 150,000 o drigolion.
Mae rhan brysur o'r M4 yn rhedeg drwy'r ardal yn y de, yr holl ffordd i'r Ail Bont Hafren.
Caiff y llu ei oruchwylio gan Awdurdod Heddlu Gwent.
Y Prif Gwnstabl yw Carmel Napier ac mae'n cael cefnogaeth y Dirprwy Brif Gwnstabl Jeff Farrar; Prif Gwnstabl Cynorthwyol Simon Prince a chyfarwyddwr adnoddau Nigel Stephens.
Mae'r llu wedi ei rannu yn bedair adran: cefnogi gweithredoedd, plismona'r gymdogaeth, ymchwilio i droseddau a datblygu gwasanaethau.
Prif flaenoriaeth y llu ar hyn o bryd yw troseddau lleol (ymddygiad gwrth cymdeithasol, bwrgleriaeth ddomestig a lleihau dwyn metel); gwarchod rhag niwed (gan gynnwys lleihau troseddau treisgar a rhywiol, eithafiaeth dreisgar a throseddau wedi eu cyd-lynu) a gwella lefel gynhyrchiol.
Mae 'na 1,441 o swyddogion, 1,055 o staff a 134 o swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r tri llu arall yng Nghymru, Gogledd Cymru, Dyfed Powys a De Cymru (ac yn rhannu gwasanaeth cyfreithiol gyda Heddlu'r De).
Hefyd mae'r heddlu yn cyd-weithio gyda thri llu o Loegr sy'n rhannu'r ffin, Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon; Sir Gaerloyw a Gorllewin Mercia.
Mae gan y llu gyfrifoldeb am Hen Bont Hafren tra bod Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon yn gyfrifol am Ail Bont Hafren.
Mae'r heddlu yn rhannu hofrennydd gyda Heddlu De Cymru sydd wedi ei lleoli yn Sain Tathan.
Cyllid
Mae gan Heddlu Gwent gyfanswm cyllid o £128 miliwn ar gyfer 2012-13, gyda £120.7 miliwn yn gostau refeniw.
Mae'r ffigwr yn cynnwys arian gan y trethdalwr o'r dreth cyngor, £39.8 miliwn, sy'n £193.09 ar gyfer cartref Band D.
Y ganran ar gyfer y tri llu arall yw £198.54 yn Nyfed Powys, £214.56 ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru a £169.42 ar gyfer Heddlu De Cymru.
Wedi'r adolygiad gwariant o heddluoedd Cymru a Lloegr yn 2010 mae gan Heddlu Gwent darged o arbedion o £25 miliwn erbyn 2015 gan golli 126 o swyddogion yr heddlu, 9% yn llai na'r hyd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Trosedd a pherfformiad
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2011, fe wnaeth Heddlu Gwent gofnodi'r gostyngiad mwya' mewn troseddau yng Nghymru a Lloegr gyda gostyngiad o 15%.
Er hynny roedd 'na gynnydd mewn troseddau rhyw a throseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Roedd y ffigyrau hyd at fis Rhagfyr 2011 yn dangos bod achosion o ddwyn wedi gostwng 27% ar y flwyddyn ganlynol, bwrgleriaeth wedi gostwng 16% a difrod troseddol a chynnau tân yn fwriadol i lawr 15%.
Roedd adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi wedi dod i'r casgliad bod gan y llu reolaeth ariannol da a strategaethau i leihau costau ac fe fyddan nhw'n gallu cynyddu eu presenoldeb llinell flaen erbyn 2015, gyda 78% o'u staff yn y swyddi hynny.
Er bod 82% o ddioddefwyr trosedd yn fodlon gyda'r gwasanaeth y derbynion nhw, mae hynny yn is na'r ffigwr yn y rhan fwyaf o luoedd.