Dyn o Dreletert am apelio yn erbyn dyfarniad
- Published
image copyrightOther
Yn y Llys Apêl yng Nghaerdydd mae dyn lofruddiodd bedwar o bobl yn gofyn am yr hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd.
Cafodd John Cooper, 66 oed o Dreletert, Sir Benfro, ddedfryd oes fis Mai'r llynedd am ddwy lofruddiaeth ddwbl chwarter canrif yn ôl.
Roedd wedi gwadu iddo lofruddio Richard a Helen Thomas yn Scoveston yn 1985 a Richard a Gwenda Dixon ar lwybr yr arfordir bedair blynedd yn ddiweddarach.
Hefyd roedd yn euog o ymosod yn ddifrifol ar griw o bobl ifanc.
Y barnwyr yw yr Arglwydd Judge, Mr Ustus Wilkie a Mr Ustus Singh.
Roedd aelodau teulu'r Dixon a brawd a chwaer yng nhyfraith Cooper yn y llys.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Mai 2011
- Published
- 26 Mai 2011
- Published
- 26 Mai 2011
- Published
- 26 Mai 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol