BBC Cymru Fyw

Heddlu yn Abertawe yn chwilio am ddyn 22 oed

Published
Mae'r heddlu yn Abertawe wedi cyhoeddi gwarant er mwyn arestio dydd 22 oed na aeth i achos llys.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i Patrick Sean McGinn.
Roedd i fod yn y llys oherwydd cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'n chwe throedfedd o daldra, gyda gwallt brown a llygaid glas, a chanddo gysylltiadau gydag ardal Waunarlwydd a Phort Talbot.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.