Gyrrwr beic modur wedi marw
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd yr heddlu bod gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad brynhawn Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 3:00pm ddydd Mercher. Roedd rhwng y gyffordd gyda'r A458/A490 (Trallwng) a Dyffyn Lane ger pentref Aberriw.
Cafodd ffordd yr A483 ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng y beic modur Kawasaki a cherbyd 'camper' Peugeot.
Fe gafodd gyrrwr y beic modur anafiadau angheuol yn y ddamwain ger pentref Aberriw yn agos i'r Trallwng.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, ac fe fydd Cwnstabl Colin Astley o Uned Blismona Ffyrdd y Canolbarth yn eu ffonio yn ôl.
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2012