Menyw ar goll: Mwy o amser i holi

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Does neb wedi gweld Catherine Gowing ers nos Wener

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad menyw 37 oed o Sir y Fflint wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth amdani.

Hefyd maen nhw wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 46 oed o Wynedd gafodd ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.

Ar ôl yr apêl wreiddiol am wybodaeth, mae'r heddlu wedi cadarnhau bod Catherine Gowing wedi cael ei gweld yn Asda yn Queensferry.

Aeth i mewn i'r archfarchnad am 8:06pm nos Wener a gadael am 8:39pm.

Roedd yn gwisgo jîns glas, siwmper frown golau gyda sip a llewys gwyn a phaneli gwyn ar ei hochr, a phâr o esgidiau du plaen.

'Blaenoriaeth'

Roedd ei gwallt brown wedi ei glymu ac roedd yn cario bag brown dros ei hysgwydd, bag Asda a bocs o'r math sy'n cael ei ddefnyddio i gludo pizza.

Cyn hynny roedd yr heddlu wedi dweud bod Ms Gowing, yn wreiddiol o bentref Birr yn Sir Offaly yn Iwerddon, wedi cael ei gweld yn gadael y filfeddygfa lle oedd yn gweithio yn Yr Wyddgrug am tua 7pm.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd John Hanson: "Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i Catherine ac fe fyddwn yn annog unrhyw un a'i gwelodd neu a welodd ei char Renault Clio lliw porffor gyda'r rhif cofrestru Gwyddelig 00D 99970 i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101.

"Mae hyn yn gwbl groes i gymeriad Catherine, a does dim modd gor-bwysleisio'r angen am gymorth y cyhoeddi wrth chwilio amdani."

Gall pobl â gwybodaeth allai fod yn berthnasol i'r ymchwiliad hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.