Enwebiadau yn cau ar gyfer Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
- Published
Ar Dachwedd 15 fe fydd 37 o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr, y tu allan i Lundain.
Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ac fe fyddan nhw'n disodli'r awdurdodau heddlu.
Tasg y Comisiynwyr fydd craffu ar eu llu a sicrhau eu bod yn atebol.
Fe fyddan nhw hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb y llu.
Blaenoriaethau
Mae hon yn swydd gyflogedig a'u bwriad yw rhoi'r pŵer i bobl leol gael dweud eu dweud ar sut mae taclo troseddau yn eu hardal.
Ymhlith y dyletswyddau hefyd y mae sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y llu.
Llywodraeth y Glymblaid yn San Steffan sydd wedi cyflwyno'r newid ac mae disgwyl i ymgeiswyr sefyll ar ran plaid neu'n annibynnol.
Fe fydd cyflog y comisiynydd yn Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru yn £70,000 a bydd yn £65,000 yn ardal Dyfed Powys.
Bydd y cyflog ar gyfer Heddlu De Cymru yn £85,000 y flwyddyn.