Taith Llywydd Merched y Wawr i weld gwaith elusen Cymorth Cristnogol

  • Cyhoeddwyd
Gill Griffiths a Branwen NiclasFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gill Griffiths a Branwen Niclas yn ymweld ag Ethiopia

Mae Llywydd Merched Y Wawr ar daith yn Ethiopia i weld gwaith elusen Cymorth Cristnogol.

Yr elusen yma yw'r un mae Gill Griffiths yn ei chefnogi eleni.

Er mwyn gweld lle mae'r arian yn cael ei wario mae hi a Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol yn teithio yn y wlad yn Affrica.

Gadawodd y ddwy ddydd Sul a chyrraedd Addis Ababa fore Llun.

Yn ystod y flwyddyn mae Merched Y Wawr yn casglu bagiau fydd yn cael eu gwerthu er budd Cymorth Cristnogol.

O 'sgidiau i fagiau

Y llynedd fe wnaeth Merched Y Wawr rywbeth tebyg gydag esgidiau er budd elusen Achub y Plant.

Bydd y bagiau yn cael eu casglu dros y misoedd nesaf cyn i Gymorth Cristnogol eu gwerthu yn eu siopau.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,
Mae bagiau o bob lliw a llun eisoes wedi cyrraedd Swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth

Bydd Merched y Wawr hefyd yn cydweithio'n agos gyda'r Eisteddfod - a siop arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau yn llawn bagiau.

"Rydym yn gofyn i'r aelodau, ffrindiau ac unrhyw arall chwilio yn eu cypyrddau am fagiau nad ydyn nhw eu heisiau rhagor, bagiau llaw, bagiau ysgwydd, bagiau i fynd i gerdded, bagiau chwaraeon, bagiau colur, unrhyw beth," meddai Mrs Griffiths.

"Fe fydd y rhai mewn cyflwr da yn cael eu gwerthu eto ar y stondin a'r gweddill yn cael eu gwerthu i gwmnïau ailgylchu.

"Mae'r ystafell yn y swyddfa yn Aberystwyth yn prysur lenwi."

'Bythgofiadwy'

Yn ôl Branwen Niclas, mae'r daith yn "addysgiadol" ac yn "brofiad bythgofiadwy" mewn gwlad lle mae'r elusen yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

O'r brifddinas maen nhw'n teithio i nifer o bentrefi bychain yn y de.

"Rydan ni wedi dewis Ethiopia am fod Cymorth Cristnogol yn gweithio efo llawer o ferched yno," meddai Ms Niclas cyn cychwyn y daith.

"Mae 70% o dlodion y byd yn ferched.

"Fe fyddwn ni, gobeithio, yn gweld prosiectau sy'n helpu merched, prosiectau fel cael dŵr glân.

"Mae dros hanner pobl Ethiopia heb ddŵr glân a dim ond chwarter y bobl yn yr ardaloedd gwledig sydd â dŵr glan."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol