Y chwilio am filfeddyg yn parhau

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn poeni bod Catherine Gowing wedi cael 'niwed sylweddol'

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am filfeddyg sydd wedi bod ar gol ers wythnos, ac yn poeni ei bod wedi cael ei llofruddio.

Cafodd Catherine Gowing, 37 oed o Iwerddon yn wreiddiol, ei gweld am y tro diwethaf mewn archfarchnad yn Sir y Fflint nos Wener.

Cafodd ei disgrifio gan ei chwaer Emma Gowing fel "chwaer brydferth" yn ystod apêl emosiynol am gymorth mewn cynhadledd newyddion ddydd Iau.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael 36 awr yn ychwanegol i holi dyn 46 oed o Wynedd a gafodd ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.

Neges destun

Dywedodd yr heddlu bod Ms Gowing, sy'n wreiddiol o Kinnity yn sir Offaly, wedi cael ei gweld yn gadael y filfeddygfa yn Yr Wyddgrug lle'r oedd yn gweithio am 7pm nos Wener diwethaf.

Cafodd yr heddlu eu galw gan gydweithwyr Miss Gowing a oedd yn bryderus wedi i un dderbyn rhan o neges destun ar ei ffôn symudol.

Image copyright North Wales Police
Image caption Cafodd Catherine Gowing ar gamera cylch cyfyng yn archfarchnad Asda yn Queesnferry

Cafodd Ms Gowing ei gweld ar gamera cylch cyfyng yn mynd i archfarchnad Asda yn Queensferry am 8:06pm nos Wener cyn gadael hanner awr yn ddiweddarach.

Dyna'r tro diwethaf iddi gael ei gweld, a does neb chwaith wedi gweld ei char, ac mae'r heddlu yn awyddus i ddod o hyd iddo.

Rhif Gwyddelig

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd John Hanson nad oedd modd gorbwysleisio pwysigrwydd cymorth y cyhoedd, a dywedodd:

Image copyright North Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn ceisio dod o hjyd i gar Renault Clio porffor gyda rhif cofrestru Gwyddelig

"Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i Catherine, ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd wedi ei gweld hi neu ei char Renault Clio - gyda'r rhif cofrestru Gwyddelig 00D 99970 - i gysylltu'n syth gyda Heddlu'r Gogledd ar 101.

"Mae hyn gwbl groes i gymeriad Catherine."

Dywedodd yr heddlu'n gynharach eu bod yn ofni y gallai Ms Gowing fod wedi cael "niwed sylweddol".

Ychwanegodd llefarydd bod y dyn a gafodd ei arestio "yn aml yn ardal New Brighton ac mae Catherine yn ei adnabod".

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.