Milfeddyg ar goll: Heddlu'n dod o hyd i gar
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd sy'n chwilio am filfeddyg 37 oed yn Sir y Fflint wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i'w char.
Fore Gwener dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd John Hanson: "Ar ôl apêl am wybodaeth am leoliad car Renault Clio Catherine Gowing cysylltodd aelod o'r cyhoedd â'r heddlu wedi i gar gael ei losgi'n ulw yn Pinfold Lane, Alltami ger Yr Wyddgrug.
"Mae plismyn aeth yno wedi dweud mai car Renault Clio pum drws oedd y cerbyd.
"Ar hyn o bryd mae archwiliad o'r cerbyd a'r cyffiniau'n cael ei gynnal ... rydym am gasglu tystiolaeth allai fod o gymorth i ddod o hyd i Catherine.
"Roedd y cerbyd ryw ddwy filltir o gartref Catherine yn New Brighton."
Cafodd y fenyw 37 oed o Iwerddon yn wreiddiol ei gweld am y tro diwethaf mewn archfarchnad yn Sir y Fflint nos Wener.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael 36 awr yn ychwanegol i holi dyn 46 oed o Wynedd gafodd ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.
Roedd Catherine yn andabod y dyn. Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r posibilrwydd ei fod o'n gariad i ddynes oedd yn rhanu'r un tŷ a Ms Gowing.
Mae'r ddynes yn dod o Iwerddon ac yn gweithio yn yr un feddygfa.
"Rwyf yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal yr hen chwarel ar Pinflold Lane, Allami dros y penwythnos i gysylltu â ni," meddai'r Ditectif Uwch-Arolygydd Hanson
"Rwyf hefyd yn erfyn ar unrhyw un a welodd y Renault Clio neu unrhyw beth amheus yn ardal y chwarel neu New Brighton ers dydd Gwener i gysylltu â'r heddlu ar 101."
Dywed yr heddlu y bydd arbenigwyr fforensig yn archwilio'r safle, ac fe all y broses gymryd cryn dipyn o amser.
Mae timau tanddwr a thimau a chŵn yn cynorthwyo gyda'r chwlio.
Dywed yr heddlu eu bod yn chwilio dau safle arall yn ogystal â'r chwarel.
Neges destun
Dywedodd yr heddlu bod Ms Gowing, yn wreiddiol o Kinnity yn Sir Offaly, wedi cael ei gweld yn gadael y filfeddygfa yn Yr Wyddgrug lle oedd yn gweithio am 7pm nos Wener diwethaf.
Galwodd ei chydweithwyr yr heddlu wedi i un dderbyn rhan o neges destun ar ei ffôn symudol.
Cafodd Ms Gowing ei gweld ar gamera cylch cyfyng yn mynd i archfarchnad Asda yn Queensferry am 8:06pm nos Wener cyn gadael hanner awr yn ddiweddarach.
Rhif Gwyddelig
Roedd y Ditectif Uwch-Arolygydd Hanson wedi dweud nad oedd modd gorbwysleisio pwysigrwydd cymorth y cyhoedd.
Dywedodd yr heddlu'n gynharach eu bod yn ofni y gallai Ms Gowing fod wedi cael "niwed sylweddol".
Ychwanegodd llefarydd fod y dyn a gafodd ei arestio "yn aml yn ardal New Brighton ac mae Catherine yn ei adnabod".
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 19 Hydref 2012
- 18 Hydref 2012
- 18 Hydref 2012
- 17 Hydref 2012